Adolygiadau/ Review
Elen
Mae Cywion Bach yn Feithrinfa hollol wych. Mae'r cyfleusterau sydd ganddynt yn eithriadol; yn fodern, glân ac arloesol ac mae'r gofal a gynigwyd yn arbennig. Gwnaeth fy mhlentyn setlo'n syth i fywyd yng Nghywion Bach a'i hoff adeg o'r wythnos oedd cael mynychu'r feithrinfa. Mae'r gofal a'r profiadau y mae wedi eu derbyn yn ystod y chwe mis diwethaf wedi bod yn gwbwl neilltuol ac mae ethos y feithrinfa'n rhedeg yn gryf yn gweithgareddau a gynigwyd i'r plant. Braf iawn yw'r ffaith bod chwarae tu allan yn greiddiol i'w hymarfer. Mae fy mab wedi cael cyfleoedd unigryw i ddatblygu fel plentyn bach ifanc ac wedi magu hyder, iaith a'r sgil o fod yn chwilfrydig dan ofal staff caredig, gwybodus a chyfeillgar. Mae cyfathrebu rhwng y feithrinfa a rhieni'n wych ar bob adeg ac mae'n hawdd canfod gwybodaeth. Yn y flwyddyn anodd iawn bu yn 2020 doedd dim amheuaeth taw Cywion Bach oedd y lle gorau i anfon fy mhlentyn. Nid yn unig fy mhlentyn ieuengaf sydd wedi bod yn ffodus o fynychu'r feithrinfa ond hefyd fy mhlentyn 8 oed sydd wedi bod wrth ei fodd yn mynychu'r clybiau arbennig yn ystod y gwyliau. Meithrinfa heb ei hail.
Cywion Bach is a fantastic nursery. Their facilities are are exceptional; modern, clean and innovative and the care offered is special. My child settled immediately to life in Cywion Bach and his favourite time of the week is when he attends. The care and experiences he has enjoyed over the past six months have been phenomenal and the nursery's ethos runs strongly through the activities the children are offered. It is wonderful that the children are given as many opportunities as possible to play and learn outside and is at the core of their practice. My son has had unique opportunities to develop as a young child and has fostered confidence, language and curiosity under the care and guidance of kind, knowledgeable and approachable staff. Communication has always been excellent and information is easy to acquire. 2020 was a difficult year but Cywion Bach was without a doubt the best place to send my child. It is not only my youngest child who has had the opportunity to attend the nursery but also my 8 year old who always enjoys the fantastic school holiday clubs. A truly fantastic nursery.