Ein Tîm / Our Team
Rheolwraig
Helo! Anwen ‘dw i a fi yw Rheolwraig Cywion Bach. Mae gen i lefel 3 yn Gofal Plant, Gwaith Chwarae, gradd a gradd ôl-raddedig yn y Blynyddoedd Cynnar.
Credaf y dylai plant gael cyfleoedd i chwarae a chael profiadau yn y byd natur mor aml â phosib, mae eu datblygiad ac addysg yn elwa cymaint!
Cywion Bach yw'r lleoliad perffaith i annog plant i archwilio amrywiaeth o ardaloedd allanol mewn ffordd ddiogel.
Rydw i'n anelu i sicrhau ein bod yn darparu gofal o'r safon uchaf le mae pob plentyn yn cael cyfleoedd cyfartal i dyfu a datblygu fel unigolion. Wrth weithio gyda'n teuluoedd, gallwn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechreuad gorau mewn bywyd.
Manager
Hello! I'm Anwen, and I am the Manager of Cywion Bach. I have a level 3 in Childcare, Playworker, a degree and post graduate degree in the Early Years.
I believe it is important that all children are given opportunities to play outdoors and experience nature as much as possible, there are so many benefits to children's development and learning!
Cywion Bach is the perfect setting for children to explore a range of different outdoor environments safely.
I aim to ensure that we provide high quality provision where all the children in our care are given equal opportunities to grow and develop as individuals. Working together with families we can ensure children have the best start in life .